P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gwilym Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 4,619 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Bydd y cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Mark Drakeford ac sy’n dod i rym am 6pm, 4 Rhagfyr, yn gwahardd y diwydiant lletygarwch rhag gwerthu alcohol, ac yn eu gorfodi i gau am 6pm. Bydd y cyfyngiadau hyn yn niweidiol i’r diwydiant lletygarwch ac mae angen ein cefnogaeth arnynt.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid yw lleoliadau’n gallu gweithredu i’w capasiti llawn ac, oherwydd hynny, mae busnesau’n mynd drwy gyfnod anodd iawn. Ond yr hyn sy’n gwneud pethau’n llawer gwaeth yn awr yw’r ffaith bod y Llywodraeth yn dweud nad yw lleoliadau’n cael gwerthu alcohol a bod yn rhaid iddynt gau am 6pm. Bydd hyn yn niweidiol iawn i’r diwydiant. Mae llawer o’r rhain yn fusnesau teuluol sydd, yn ystod yr wythnosau nesaf, yn dibynnu ar gyfnod prysuraf y flwyddyn, sy’n hanfodol i’w busnes a’u bywoliaeth.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ynys Môn

·         Gogledd Cymru